#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-807

Teitl y ddeiseb: Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu unrhyw ganllawiau y mae’n eu rhoi o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru.

Mae llawer o blant ledled Cymru yn dioddef o salwch cronig sy’n effeithio ar eu presenoldeb yn yr ysgol. Gall plentyn golli ysgol oherwydd y salwch ei hun neu oherwydd apwyntiadau ysbyty y mae’n rhaid iddo fynd iddynt mewn cysylltiad â’r salwch.

Caiff gwobrau am bresenoldeb, y mae llawer o’r plant hyn yn colli cyfle i’w hennill, eu cyflwyno gan ysgolion bob blwyddyn. Mae hyn yn annheg, ac mae hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn y plant hyn.

Hoffwn gynnig bod Llywodraeth Cymru naill ai’n cyflwyno ystyriaethau ar gyfer y plant hyn, neu’n cynghori awdurdodau lleol ac ysgolion na ddylid rhoi gwobrau am bresenoldeb.

Canllawiau Llywodraeth Cymru

Mae gwella presenoldeb disgyblion wedi bod yn destun amrywiaeth o adolygiadau, polisïau a chynlluniau cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhagair i  Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru (2011) yn datgan:

Mae’n     debygol            y          bydd    lefelau  presenoldeb     gwael   yn        cael      effaith  negyddol ar   lwyddiant         plentyn yn        yr         ysgol.

Mae Adran 3 o’r Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan, sef y Strategaethau i Ysgolion Wella Presenoldeb a Rheoli Diffyg Prydlondeb(2011) yn datgan:

Mae ymchwil wedi dangos bod gwobrau yn llawer mwy effeithiol na chosb wrth ysgogi disgyblion. Yn ogystal ag annog a gwobrwyo presenoldeb, gall y cynlluniau hyn hefyd gynyddu proffil presenoldeb, yn yr ysgol ac yn y gymuned ehangach.

Mae llythyrau i rieni a gofalwyr a breintiau arbennig ymhlith llawer o ffyrdd arbennig o effeithiol o ddangos canmoliaeth am bresenoldeb da neu well. Gellir defnyddio system wobrwyo fwy ffurfiol o gredydau, rhinweddau a gwobrau i gydnabod a llongyfarch disgyblion, mae rhai enghreifftiau ohonynt yn fanwl [yn yr arweiniad].

Roedd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’r ddeiseb yn nodi mai mater i ysgolion oedd penderfynu ar unrhyw feini prawf y maent yn eu gosod os ydynt wedi sefydlu cynlluniau gwobrwyo presenoldeb. Nid yw’r Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan yn cynnig awgrymiadau penodol ynghylch y ffyrdd y dylai cynlluniau gwobrwyo weithredu neu ba faterion y dylid eu cymryd i ystyriaeth.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn sôn am adroddiad Estyn, Arfer effeithiol o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion cynradd (Mehefin 2015).  Dywedodd hwn:

Mae llawer o ysgolion yn cydnabod ei bod yn bwysig annog presenoldeb da ar gyfer pob disgybl, yn enwedig y rhai na fyddent efallai’n gallu cael tystysgrif am ganran presenoldeb uchel dros gyfnod hir.  Yn yr achosion gorau, mae’r ysgolion hyn yn datblygu systemau cymhellol sy’n gwobrwyo presenoldeb gwell neu bresenoldeb llawn dros gyfnod treigl, fel pum wythnos ar y tro.  Mae hyn yn galluogi pob disgybl i barhau i anelu at bresenoldeb uchel, oherwydd ar ôl unrhyw gyfnod o absenoldeb, gellir gosod eu targed eto.

Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod yn rhaid i ysgolion wneud addasiadau rhesymol ar gyfer disgyblion (o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) ac felly dylai ysgolion ystyried hyn wrth sefydlu cynlluniau gwobrwyo.

Mae dogfen Llywodraeth Cymru Cefnogi Dysgwyr ag Anghenion Gofal Iechyd (Mawrth 2017) yn nodi’n fwy eglur ei fod yn ‘arfer annerbyniol’ i:

cosbi dysgwr am eu cofnod presenoldeb os bydd yr absenoldeb yn gysylltiedig â’u hanghenion gofal iechyd. Ni ddylid defnyddio ‘absenoldeb awdurdodedig’ gan gynnwys apwyntiadau gofal iechyd, amser teithio i’r ysbyty neu i apwyntiad nac amser adfer rhag triniaeth neu salwch i gosbi dysgwr mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, gymryd rhan mewn gweithgareddau, teithiau neu wobrwyon lle mae cofnodion presenoldeb yn rhan o’r cymhelliant.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r canllawiau presenoldeb, ac y caiff gwobrwyon eu hystyried fel rhan o hyn.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliodd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc (y Pedwerydd Cynulliad) Ymchwiliad i Bresenoldeb ac Ymddygiad (Awst 2013).  Mewn tystiolaeth, tynnodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon a Chomisiynydd Plant Cymru sylw at y manteision o gyflwyno gwobrau am bresenoldeb da.  Fodd bynnag, ni chynigiodd y Pwyllgor unrhyw sylw neu argymhelliad pellach o ran gwobrwyon.

Deisebau Senedd y DU

Cyflwynwyd deisebau tebyg i Lywodraeth a Senedd y DU, er enghraifft, Stop medical appointments affecting school attendance (a gaewyd ym mis Ebrill 2017) a ddenodd 11,713 o lofnodion. Roedd ymateb Llywodraeth y DU yn debyg i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau:

The Department [of Education] does not specify or influence how schools might choose to reward good attendance. However, any system should comply with schools’ legal duties around disability and medical conditions.

Caewyd deiseb debyg, Ban attendance awards in schools, a ddenodd 2,602 o lofnodion, ar 15 Mawrth 2018.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.